|
||
|
|
||
|
||
|
Cerbyd a Atafaelwyd |
||
|
Annwyl Breswylydd, Neithiwr cynhaliodd swyddogion lleol o'r Tîm Cymdogaeth a'r tîm Plismona Ffyrdd batrolau ar y cyd, gyda'r drôn, ar y mynydd y tu ôl i Tŷ Coch a Bryn Carno yn dilyn adroddiadau parhaus o gerbydau'n cael eu defnyddio mewn modd gwrthgymdeithasol. Gwelwyd un cerbyd gan y drôn a'i atal gan swyddogion, a chanfuwyd nad oedd ganddo yswiriant. O ganlyniad i hyn atafaelwyd y cerbyd. Daliwch ati i roi gwybod am unrhyw broblemau sy'n effeithio arnoch chi.
| ||
Reply to this message | ||
|
|






